Dr Natalie Roch
Prif Ddarlithydd Seicoleg
Derbyniodd Natalie ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2008 mewn Seicoleg, ac yna ei MSc mewn Ymchwil Seicolegol hefyd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2010. Yn ystod 2009 a 2010 gweithiodd Natalie fel Cynorthwyydd Ymchwil yn Labordy Datblygiad Gwybyddol yr Ymennydd ym Mhrifysgol Bangor, cyn cyflawni ei PhD mewn Seicoleg yn y labordy ymchwil hwn yn 2015.
Teitl ei thraethawd ymchwil PhD oedd ‘Dwyieithrwydd a Gwybyddiaeth: Dull ERP’. Ar ôl cwblhau ei PhD, ymunodd Natalie â Phrifysgol Wrecsam fel Technegydd Seicoleg yn 2016. Oddi yno fe’i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Seicoleg Fiolegol yn 2017, gan ddechrau ei swydd o Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y Rhaglen Israddedig mewn Seicoleg yn 2018. Derbyniodd Natalie ei Chymrodoriaeth o AU Ymlaen yn 2017, a statws siartredig gyda’r BPS yn 2018.
Yn 2022 penodwyd Natalie yn Brif Ddarlithydd yn y Gyfadran Gymdeithasol a Gwyddorau Bywyd, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r adrannau Seicoleg a Chwnsela. Pan nad yw’n gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Natalie yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu; yn caru popeth Disney a Marvel; wrth ei bodd â chwaraeon gan gynnwys pêl droed a reslo; ac yn mwynhau mynychu’r theatr a gigiau cerddorol.
Diddordebau Ymchwil
Ehangu cyfranogiad mewn AU ac mewn Dysgu Seicoleg
Llesiant Myfyrwyr a Llesiant Academaidd
Dwyieithrwydd a Datblygiad Gwybyddol (ar hyd ein hoes)
Niwroseicoleg
Cydweithwyr
Enw | Rôl | Cwmni |
---|---|---|
Mandy Robbbins | Cyd-ymchwilydd | Prifysgol Wrecsam |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2018 | Tiwtor Personol Gorau | Gwobrau Undeb y Myfyrwyr |
2022 | Tiwtor Personol Gorau | Gwobrau Undeb y Myfyrwyr |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeithasfa | Swyddogaeth |
---|---|
Cymdeithas Seicolegol Prydain | Aelod Siartredig (CPsychol) |
Cyflogaeth
Blwyddyn | Cyflogwr | Dyddiad |
---|---|---|
Prifysgol Bangor | Cynorthwy-ydd Ymchwil | 2009 - 2010 |
Prifysgol Wrexham | Uwch Ddarlithydd | 2018 - 2022 |
Prifysgol Wrexham | Technegydd Seicoleg | 2016 - 2017 |
Prifysgol Wrexham | Ddarlithydd | 2017 - 2018 |
Addysg
Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc | O/I |
---|---|---|---|
Prifysgol Wrexham | Tystysgrif Ôl-raddedig | Datblygiad Proffesiynol mewn AU | 2016 - 2017 |
Prifysgol Bangor | MSc Ymchwil Seicolegol | Seicoleg | 2008 - 2010 |
Prifysgol Bangor | BSc (Anrh) Seicoleg | Seicoleg | 2005 - 2008 |
Prifysgol Bangor | PhD | Seicoleg | 2010 - 2015 |
Leithoedd
Iaith | Darllen | Ysgrifennu | Siarad |
---|---|---|---|
Cymraeg | Hyfedredd Proffesiynol | Hyfedredd Proffesiynol | Hyfedredd Proffesiynol |
Saesneg | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Diddordebau Addysgu
Sgiliau Astudio
Dulliau Ymchwil
Seicoleg Fiolegol a Gwybyddol
Niwrowyddoniaeth a Niwroseicoleg
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Introduction to Research Methods 1 | PSY424 |
Advanced Research Design | PSY509 |
Ôl-raddedigion Presennol
Enw | Gradd |
---|---|
Kirsty Rogers | PhD |
Jess Achilleos | PhD |
Emma Taylor | PhD |
Katherine Rowlands | PhD |
Myfyrwyr Ôl-raddedig Diweddar
Blwyddyn | Enw | Gradd |
---|---|---|
2020 | Daniel Wilkin | MSc Psychology |
2022 | Nataliya Shershenyuk | MRes Psychology |
2023 | Gwennan Barton | PhD |
2020 | Joe Newton | MPhill |