Students looking at a screen

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025, 2026

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi mewnwelediad i chi i amgylchedd unigryw Adrannau Theatr. Mae hyn yn cynnwys y daith y bydd cleifion yn mynd arni yn ystod y llawdriniaeth, y safonau a’r gwerthoedd sy’n sail i ofal ein cleifion, a’r rolau a'r proffesiynau amrywiol o fewn y tîm hynod sgilgar hwn o ddarparwyr gofal.

Bydd ffocws penodol ar rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth yn y maes hwn, a chwmpas cynyddol yr ymarfer yn yr Adran Theatr a’r tu allan iddi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio cymwys ar gyfer ein Gradd BSc Israddedig, Ymarfer yr Adran Llawdriniaeth
  • Modiwl unigryw yn y brifysgol
  • Arddulliau dysgu/addysgu a fydd yn gweddu i raglenni gradd israddedig, yn rhai llawn amser a rhan amser, yn y Brifysgol
  • Strwythur prifysgol agored a chefnogol
 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad i’r Amgylchedd Theatr
  • Y Daith yn ystod Llawdriniaeth - Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Claf
  • Cyflwyniad i Arbenigeddau Llawfeddygol
  • Rolau’r ODP a’r Tîm Aml-ddisgyblaethol
  • Ein Safonau a’n Gwerthoedd
  • Anaestheteg
  • Llawdriniaeth
  • Gofal ar ôl rhoi Anaestheteg
  • Rolau Cynyddol yr ODP
  • Arweiniad ar Ysgrifennu Academaidd ac Asesiadau
 

Addysgu ac Asesu

Bydd yr asesiad yn cynnwys aseiniad ysgrifenedig yn archwilio rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth ynghylch gofal cleifion.

 

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 

Dyddiadau’r cwrs

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mawrth 14 Hydref 2025 - Archebwch Nawr 

Bydd y sesiynau ar-lein yn rhedeg bob dydd mawrth rhwng 15:00 - 17:00, gyda sesiwn un (dyddiad i'w benderfynu) yn wyneb yn wyneb ar Campws Wrecsam.

***

Dyddiad Cychwyn:  Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026 - Archebwch Nawr

Bydd y sesiynau ar-lein yn rhedeg bob dydd mawrth rhwng 15:00 - 17:00, gyda sesiwn un (dyddiad i'w benderfynu) yn wyneb yn wyneb ar Campws Wrecsam.